Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 20 Hydref 2021
Amser:
09.02 -
10.31
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12565
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jenny Rathbone AS (Cadeirydd) Jane Dodds AS Altaf Hussain AS Sarah Murphy AS Sioned Williams AS Ken Skates AS |
Tystion: |
Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Maureen Howell, Llywodraeth Cymru Paul Neave, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Rhys Morgan (Clerc) Claire Fiddes (Dirprwy Glerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.
1.2 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Sarah Murphy AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.3 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Datganodd Sioned Williams fuddiant yn eitem 4 gan ei bod yn aelod o undeb credyd.
2 Dyled a'r pandemig – sesiwn graffu gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
2.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
2.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Gweinidog i wneud y canlynol:
3 Papurau i’w nodi
3.1 Gohebiaeth gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ynghylch canfyddiadau o ran cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol – 5 Hydref 2021
3.1a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.
3.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn ymateb i Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2020 – 8 Hydref 2021
3.2a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.
3.3 Gohebiaeth gan Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru ynghylch ymchwiliad y Pwyllgor i ddyled a phandemig - 13 Hydref 2021
3.3a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Ystyried tystiolaeth – sesiwn graffu gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2.
6 Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
6.1 Ymddiheurodd y Cadeirydd a chadeirodd Sarah Murphy AS weddill y cyfarfod.
6.2 Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi’r adroddiad monitro hwn, ac unrhyw adroddiadau tebyg yn y dyfodol, i ddangos sut mae’r Pwyllgor yn monitro’r mater.
6.3 Cytunodd y Pwyllgor i rannu’r adroddiad a gyhoeddwyd â’r Awdurdod Monitro Annibynnol.
6.4 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o Statws Preswylwyr Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yng Nghymru, yn enwedig o ran sut y bydd, yn y dyfodol, yn cynorthwyo’r rhai sy’n gwneud cais hwyr a dinasyddion sydd â statws preswylydd.